Acts 3

Pedr yn iacháu'r cardotyn oedd yn methu cerdded

1Un diwrnod, am dri o'r gloch y p'nawn, roedd Pedr ac Ioan ar eu ffordd i'r deml i'r cyfarfod gweddi. 2Wrth y fynedfa sy'n cael ei galw ‛Y Fynedfa Hardd‛ roedd dyn oedd ddim wedi gallu cerdded erioed. Roedd yn cael ei gario yno bob dydd i gardota gan y bobl oedd yn mynd a dod i'r deml. 3Pan oedd Pedr ac Ioan yn pasio heibio gofynnodd iddyn nhw am arian. 4Dyma'r ddau yn edrych arno, a dyma Pedr yn dweud, “Edrych arnon ni.” 5Edrychodd y dyn arnyn nhw, gan feddwl ei fod yn mynd i gael rhywbeth ganddyn nhw.

6“Does gen i ddim arian i'w roi i ti,” meddai Pedr, “ond cei di beth sydd gen i i'w roi. Dw i'n dweud hyn gydag awdurdod Iesu y Meseia o Nasareth – cod ar dy draed a cherdda.” 7Yna gafaelodd yn llaw dde y dyn a'i helpu i godi ar ei draed. Cryfhaodd traed a choesau'r dyn yr eiliad honno, 8a dyma fe'n neidio ar ei draed a dechrau cerdded! Aeth i mewn i'r deml gyda nhw, yn neidio ac yn moli Duw. 9Roedd pawb yn ei weld yn cerdded ac yn moli Duw, 10ac yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn oedd yn arfer eistedd i gardota wrth ‛Fynedfa Hardd‛ y deml. Roedden nhw wedi eu syfrdanu'n llwyr o achos beth oedd wedi digwydd iddo.

Pedr yn annerch y dyrfa yn y deml.

11Dyna lle roedd y cardotyn a'i freichiau am Pedr ac Ioan, a dyma'r bobl yn tyrru i mewn i Gyntedd Colofnog Solomon lle roedden nhw. 12Pan welodd Pedr y bobl o'u cwmpas, dwedodd wrthyn nhw: “Pam dych chi'n rhyfeddu at hyn, bobl Israel? Pam syllu arnon ni fel petai gynnon ni'r gallu ynon ni'n hunain i wneud i'r dyn yma gerdded, neu fel tasen ni'n rhyw bobl arbennig o dduwiol? 13Duw sydd wedi gwneud y peth – Duw Abraham, Isaac a Jacob; Duw ein cyndeidiau ni. Gwnaeth hyn i anrhydeddu ei was Iesu. Yr Iesu wnaethoch chi ei drosglwyddo i'r awdurdodau Rhufeinig i gael ei ladd. Yr un wnaethoch chi ei wrthod pan oedd Peilat yn fodlon ei ryddhau. 14Gwrthod yr un glân a chyfiawn, a gofyn iddo ryddhau llofrudd yn ei le. 15Ie, chi laddodd awdur bywyd, ond dyma Duw yn dod ag e yn ôl yn fyw! Dŷn ni'n dystion i'r ffaith! 16Iesu roddodd y nerth i'r dyn yma o'ch blaen chi gael ei iacháu. Enw Iesu, a'r ffaith ein bod ni'n credu ynddo sydd wedi ei wneud yn iach o flaen eich llygaid chi.

17“Frodyr a chwiorydd, dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn sylweddoli beth oeddech yn ei wneud; ac mae'r un peth yn wir am eich arweinwyr chi. 18Ond dyma sut wnaeth Duw gyflawni beth oedd y proffwydi wedi dweud fyddai'n digwydd i'r Meseia, sef fod rhaid iddo ddioddef. 19Felly trowch gefn ar eich pechod, a throi at Dduw, a bydd eich pechodau chi'n cael eu maddau. 20Yna bydd yr Arglwydd yn anfon ei fendith, cyn iddo anfon y Meseia atoch unwaith eto, sef Iesu. 21Mae'n rhaid iddo aros yn y nefoedd nes daw'r amser pan fydd Duw yn gwneud popeth yn iawn am byth. Roedd wedi dweud hyn ymhell yn ôl drwy ei broffwydi. 22Dwedodd Moses, ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi Proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus ar bopeth fydd yn ei ddweud wrthoch chi. a 23Bydd pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y Proffwyd hwnnw yn cael ei dorri allan yn llwyr o blith pobl Dduw.’ b

24“Yn wir, roedd pob un o'r proffwydi, o Samuel ymlaen, yn dweud ymlaen llaw am y cwbl fyddai'n digwydd yn ein dyddiau ni. 25Chi ydy'r plant sydd i etifeddu beth wnaeth y proffwydi ei addo a'r ymrwymiad wnaeth Duw i'ch cyndeidiau chi. Dyma ddwedodd wrth Abraham: ‘Trwy dy ddisgynyddion di bydd holl bobloedd y byd yn cael eu bendithio.’ c 26Pan ddaeth Duw â'i was Iesu i'r golwg, cafodd ei anfon atoch chi'n gyntaf, i'ch bendithio chi drwy droi pob un ohonoch chi o'ch ffyrdd drwg.”

Copyright information for CYM